Y Gorau Mewn Gofal Milfeddygol
Pam Ein Dewis Ni?
Rydym yn gwybod fod dewis eich meddygfa filfeddygol yn benderfyniad anodd ac un y byddech am ei wneud ond unwaith. Yng Nghanolfan Filfeddygol Dewi Sant rydym yn falch o’n henw da ac ymdrechwn i gynnal hyn trwy fuddsoddi’n barhaol yn y feddygfa a’i staff. Teimlwn os y dewiswch ni, na fyddwch yn flin, gan y cymerwn ofal o’r rhai sy’n annwyl i chi trwy’u bywydau.
Gan ein bod yn feddygfa filfeddygol ym mhrifddinas Cymru teimlwn ei fod yn hanfodol bwysig ein bod yn cynnig,lle y gallwn,wasanaeth yn y Gymraeg. Mae gan y feddygfa dau filfeddyg,Sion a Branwen,sy’n siarad Cymraeg a byddant yn hapus i gynnal apwyntiad yn y Gymraeg.
Beth Rydym Yn Eu Gynnig?
Er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’ch anifail anwes paratoir y gwasanaethau milfeddygol canlynol yng Nghanolfan Filfeddygol Dewi Sant:
- Archwiliadau iechyd a chwistrelliadau i gwn a chathod bach
- Rhoi ‘microchip’
- Triniaeth ysbaddu cwn,cathod,cwningod,ffuredau ac anifeiliaid bach
- Archwiliadau iechyd a chwistrelliadau flynyddol
- Triniaeth gwaredu llyngyr a rheoli chwain
- Cyngor bwydo a monitro pwysau
- Triniaeth ddeintyddol a chyngor
- Trwydded PETS
- Ymweliadau â’ch cartref
- Cyfleusterau pelydr-X digidol
*er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglyn ag unrhyw wasanaeth milfeddygol ychwanegol cysylltwch â’r feddygfa.
Cysylltwch â’r ganolfan i gael prisiau am yr holl driniaethau. Byddwn yn hapus i roi gwybodaeth am gost i chi yn ddi-dâl ac heb fod unrhyw reidrwydd arnoch i’n defnyddio.
Prisiau
Fel meddygfa rydym yn ymwybodol bod cost cadw anifail anwes os yw’n New Foundland neu’n gath yn ddrud. Ceisiwn strwythuro’n prisiau felly,fel y bôd nid yn unig yn gystadleuol, ond hefyd pan fydd angen gofal milfeddygol na fyddant yn afresymol.
Enghreifftiau:
Cost yr ymgynghoriad cyntaf £49.62
Cost am ymgynghoriad ar gwningen £39.46
Ysbaddu cath (spay) £113.80
Ysbaddu cath (castrate) £87.12
Ysbaddu ci (spay) £279.49 – £401.76 (yn dibynnu ar bwysau)
Ysbaddu ci (castrate) £207.54- £276.72 (yn dibynnu ar bwysau)
*bydd angen talu am ymgynghoriadau neu unrhyw driniaeth ar eich ymweliad. Gellir rhoi amcangyfrif os oes angen.